A fydd yr haul yn machlud ar gyfraith yr UE a ddargedwir yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 14/11/2022   |   Amser darllen munudau

Rhaid i'r Senedd benderfynu’n fuan a yw am gydsynio â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).

Mae ein briff yn esbonio sut mae’r Bil hwn yn dechrau’r cloc yn tician i 31 Rhagfyr 2023, pan fydd y rhan fwyaf o gyfraith yr UE a ddargedwir yn dod i ben yn awtomatig oni bai bod Gweinidogion yn ei chadw. Mae'r cymalau hyn, sy’n cael eu hadnabod fel cymalau 'machlud', yn pennu dyddiad y daw'r ddeddfwriaeth i ben yn y dyfodol. Cyn hynny, rhaid i Weinidogion y DU a Chymru benderfynu beth i’w gadw, ei ddiwygio neu ei ddileu. Gall Gweinidogion y DU ymestyn y dyddiad cau hyd at 23 Mehefin 2026, sef deng mlynedd ers y refferendwm Brexit. 

Byddai'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gymryd camau o fewn meysydd datganoledig gyda chymeradwyaeth y Senedd. Ond gyda chymeradwyaeth Senedd y DU, gallai Gweinidogion y DU wneud yr un peth mewn meysydd datganoledig, gan fynd heibio i Lywodraeth Cymru a’r Senedd i bob pwrpas.  

Gallai’r llywodraethau gytuno neu anghytuno ar beth i’w wneud gyda chyfraith yr UE a ddargedwir sydd wedi’i datganoli, a fydd yn destun gwaith dadansoddi pellach.  

Hanfodion

Cyfraith yr UE a ddargedwir yw cyfraith yr UE a droswyd gan y DU i gyfraith ddomestig yn y cyfnod cyn Brexit er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Mae'n gorff penodol o gyfraith sy'n cwmpasu pob agwedd ar ein bywydau bob dydd. 

Mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn cwmpasu cyfuniad o feysydd datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, fel yr amgylchedd, bwyd, materion gwledig, ynni a physgodfeydd, a meysydd cadw y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt, fel masnach, trethi, dyfeisiau meddygol a chyfathrebu electronig.

Cynhyrchydd cymalau

Defnyddiwch ein cynhyrchydd cymalau i weld crynodeb cyflym o’r 23 o gymalau a’r tair atodlen sydd yn y Bil. Dewiswch bob cymal neu gallwch eu gweld yn ôl categori, yna cliciwch ar rif cymal i gynhyrchu crynodeb. 

Dewis categori:

Dewis cymal:

Cymal 1

Mae cymal 1 yn machlud is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r UE a deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ar 31 Rhagfyr 2023 oni bai y caiff ei hachub gan Weinidogion.

Mae cymal 1(2) yn cynnig opsiwn i osgoi'r machlud hwn a machlud yn y dyfodol os pennir deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion y DU a Chymru yn gweithredu ar y cyd.

Ffeithlun

Mae’r ffeithlun isod yn dangos sut y gallai Gweinidogion Cymru neu’r DU fynd ati o dan y Bil i gadw, diwygio neu ddileu cyfraith yr UE a ddargedwir:

Erthygl gan Sara Moran and Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru